Psalms 90

LLYFR PEDWAR

(Salmau 90—106)

Duw y ddynoliaeth gyfan

Gweddi Moses, dyn Duw.

1Fy Meistr, rwyt ti wedi bod yn lle saff i ni guddio
ar hyd y cenedlaethau.
2Cyn i'r mynyddoedd gael eu geni,
a chyn bod y ddaear a'r byd yn bodoli,
roeddet ti yn Dduw, o dragwyddoldeb pell.
3Ti sy'n anfon pobl yn ôl i'r pridd
drwy ddweud, “Ewch yn ôl, chi bobl feidrol!”
4Mae mil o flynyddoedd yn dy olwg di
fel diwrnod sydd wedi pasio heibio,
neu fel gwylfa nos.
5Ond mae pobl yn cael eu llethu gan gwsg,
ac yna fel glaswellt yn adfywio yn y bore.
6Mae'n tyfu ac yn llawn bywyd yn y bore,
ond erbyn iddi nosi mae wedi gwywo a sychu.
7Dyna sut dŷn ni'n gwywo pan rwyt ti'n gwylltio;
mae dy lid yn ein dychryn ni am ein bywydau.
8Ti'n gwybod am ein methiant ni i gyd,
ac yn gweld ein pechodau cudd ni.
9Mae'n bywydau ni'n mynd heibio dan dy ddig;
mae'n blynyddoedd ni'n darfod fel ochenaid.
10Dŷn ni'n byw am saith deg o flynyddoedd,
wyth deg os cawn ni iechyd;
ond mae'r gorau ohonyn nhw'n llawn trafferthion!
Maen nhw'n mynd heibio mor sydyn!
A dyna ni wedi mynd!
11Does neb eto wedi profi holl rym dy lid.
Mae dy ddig yn hawlio parch!
12Felly dysga ni i wneud y gorau o'n dyddiau,
a gwna ni'n ddoeth.
13Tro yn ôl aton ni, Arglwydd! –
Faint mwy mae'n rhaid i ni ddisgwyl?
Dangos drugaredd at dy weision.
14Gad i ni brofi dy gariad ffyddlon yn y bore,
yn gwneud i ni ganu'n llawen bob dydd!
15Gad i ni brofi hapusrwydd am yr un cyfnod
ag rwyt ti wedi'n cosbi ni –
sef y blynyddoedd hynny pan mae popeth wedi mynd o'i le.
16Gad i dy weision dy weld ti'n gwneud pethau mawr eto!
Gad i'n plant ni weld mor wych wyt ti!
17Boed i'r Meistr, ein Duw ni, fod yn garedig aton ni.
Gwna i'n hymdrechion ni lwyddo.
Ie, gwna i'n hymdrechion ni lwyddo!
Copyright information for CYM